CYMDEITHAS CLOTAS
Gŵyl Nôl ’Da’n Gilydd Cribyn
Dydd Sadwrn, 9 Hydref, 2021
Noson lawen yn y prynhawn(ie!) yn crwydro’r pentre gyda’n gilydd gan stopo fan hyn a fan draw i godi hwyl, gwên a chân. Barbeciw blasus yn y Ca’ Whare i bennu (dewch a’ch pop neu gwrw’ch hunan).
EITEM 1 Ysgol Cribyn 3.00 o’r gloch
EITEM 2 Bro Silin 3.15
EITEM 3 Fron Ganol 3.25
EITEM 4 Sgwâr Derlwyn 3.40
EITEM 5 Dan y Moniwment 3.50
EITEM 6 Capel Cribyn 4.00
EITEM 7 Cwrt Maesmynach 4.10
EITEM 8 Cysgod y Gaer 4.20
EITEM 9 Ca’ Whare 4.30
Ymunwch ’da ni o’r dechre neu wrth i ni alw heibio!