Helfa Drysor (ar droed) oddiamgylch tref Llanbedr Pont Steffan i’r teulu.
Trefnir gan Gangen Plaid Cymru Llanbedr Pont Steffan, yn rhan o Ŵyl Bro.
Cyfarfod ger Capel Soar ar Faes Parcio’r Cwmins am 2 o’r gloch prynhawn Sadwrn 4 Medi 2021. Codir tal o £1 i gystadlu a bydd gwobrau i’r enillwyr.
Cyfarfod ar ddiwedd yr Helfa Drysor yn Yr Hedyn Mwstard, Stryd y Coleg i brynu paned ac am sgwrs.
Ffoniwch Ann Morgan ar 07791966122 am fwy o wybodaeth.
Y digwyddiad yn rhan o Gŵyl Bro – Bro360.