Pantomeim gwreiddiol gan Caryl Bryn a Carwyn Jones, enillydd Coron yr Eisteddfod Ffermwyr Ifainc dros y penwythnos. Wedi ei lleoli yn siop trefnu partïon Halibadŵ, sy’n cael ei rhedeg gan Blodwen a’i phlant Beti a Bobi Balŵ. Ond mae’r busnes mewn peryg gan fod gwrach mwyaf mileinig y sir, Derwela Drwynhir, ar eu holau…