Lansio ymgyrch prynu siârs Tafarn y Vale

14:00, 6 Tachwedd 2021

https://vimeo.com/640934035

Mae’r cyfle wedi dod i bawb brynu siârs, i helpu cymuned Dyffryn Aeron i brynu tafarn y Vale.

Dewch i bac y Vale bnawn Sadwrn 6 Tachwedd, i weld y manylion, ac i brynu eich siârs er mwyn rhoi dechrau da i’r ymgyrch.

Peint am ddim (dim cwrw, ond gwydr peint sbeshal) i’r 100 cynta sy’n buddsoddi.

(Bydd modd i unrhyw un brynu siârs o 6 Tachwedd nes 12 Rhagfyr.)