Lloyd George, Empire and the Making of Modern Ireland

17:30, 2 Tachwedd 2021

Am Ddim

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig
Yr Athro Paul O’Leary
Fel prif weinidog y Deyrnas Unedig, bu David Lloyd George yn gyfrifol am negodi’r Cytundeb Eingl-Wyddelig ym 1921 a arweiniodd at greu yr Iwerddon fodern. Mae’r ddarlith hon yn defnyddio canmlwyddiant y digwyddiad hwnnw i archwilio ei agweddau newidiol tuag at hunan-lywodraeth Iwerddon a rhaniad yr ynys. Mae’n dadlau mai dim ond yng ngoleuni ei gred ddi-ysgog yn yr Ymerodraeth Brydeinig y gellir deall ei ymgais i ddatrys y Cwestiwn Gwyddelig ar wahanol adegau yn ei yrfa.  Yn ei farn ef, dyna oedd yr unig gyd-destun lle gallai hunan-lywodraeth Wyddelig (a Chymreig) ddigwydd.

**Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg**