Llyfrgell Planhigion Gerlan – Be’ nesa?

14:00, 4 Medi 2021

Dowch am gacen am ddim a cherddoriaeth gan Dafydd Hedd i ni gael p’nawn cymdeithasol a sgwrs beth fasech chi’n licio ei ddigwydd efo’r ardal – y “patio mawr” wrth y llyfrgell planhigion yn Gerlan. Beth am gael murlun ar y wal? Sut fath o furlun?

Bydd hi’n braf iawn cael sgyrsiau a dod i nabod pobl.

Y digwyddiad yn rhan o Gŵyl Bro – Bro360.