Dewch i Bafiliwn Pontrhydfendigaid dydd Sul 28ain Tachwedd i Farchnad Nadolig Bont. Mi fydd amrywiaeth eang o anrhegion unigryw ac arbennig, bwyd a diod. Dyma fenter gymunedol i gefnogi a hyrwyddo ymdrechion lleol. Bydd adloniant tymhorol a lluniaeth yn creu naws Nadoligaidd wrth i chi chwilio am eich anrhegion o dan un to beth bynnag y tywydd. #doligbont
Mae pob elw o’r digwyddiad tuag at elusennau lleol (cynhelir y digwyddiad gan wirfoddolwr).
I archebu stondin e-bostiwch doligbont@gmail.com