Symposiwm rhithwir i nodi 400 mlwyddiant cyhoeddi Salmau Cân Edmwnd Prys mewn tair sesiwn wythnosol yn ystod mis Tachwedd.
Salmau Cân Edmwnd Prys yn 1621 oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gynnwys cerddoriaeth wedi’i hargraffu. Yn ail ddarlith y Symposiwm byddwn yn bwrw golwg ar ddatblygiad y traddodiad o argraffu cerddoriaeth yn y canrifoedd a ddilynodd y cyhoeddiad cyntaf hwnnw.