Mae Owain Sparnon yn ymateb i’r hyn mae yn ei weld bob dydd drwy gyfrwng ffotograffau, tirluniau, golau, sain a thrugareddau cyffredin.
Ar ei photiau ‘Pync Nain’, mae Elin Hughes yn cyfuno patrymau hen lestri Cymreig gyda ffurfiau afluniaidd er mwyn cyfleu natur gynnes, hwyliog ond cymhleth y Cymry, a’r gwrthdaro rhwng poeni am draddodiad a’r ysfa i edrych allan ar y byd.
Ffotograffydd Celf Gain yw Laurentina Miksys sy’n enedigol o Lithwania, sy’n chwarae â’n syniad o realiti.