J T Parry (ap Idwal)

10 Medi 2021 – 2 Hydref 2021

Paentiadau o Ddyffryn Ogwen, Nant Ffrancon, Cwm Idwal a’r cyffiniau gan chwarelwr o’r 19eg ganrif, nad yw yn enw cyfarwydd mwyach. Cafodd ei eni yn Chwarel Goch yn Nhregarth ger Bethesda yn 1853. Bu’n gweithio yn Chwarel y Penrhyn a byddai’n gwneud darluniau dyfrlliw ar ddarnau o lechi ac yn eu gwerthu am ychydig sylltau’r un. Er ei fod yn cael ei enwi yng Nghyfrifiad 1881 ac 1891 fel ‘Artist-Painter’, erbyn 1901 mae’n ‘Artist & Landscape Painter’, yn gweithio gartref, ac yn amlwg wedi troi’i gefn ar y chwarel. Mae sôn i’w baentiadau wneud cymaint o argraff ar Arglwyddes Penrhyn nes iddi gynnig talu iddo gael hyfforddiant proffesiynol mewn Coleg Celf, ac mae ei waith ar gadw yng Nghastell y Penrhyn a’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae yma ddarluniau o Chwarel Goch ei hun, Castell Dolbadarn, Pont y Tŵr, Pont Ogwen a hen bentref bach Bryn Llys, a gafodd ei gladdu gan domenni Chwarel y Penrhyn dros 100 mlynedd yn ôl. Bu farw yn 1913 yn Ysbyty Wyrcws Bangor, a’i gladdu mewn bedd di-nod ym Mynwent Coetmor, Bethesda. Hefyd yn yr oriel, arddangosfa o waith yr artist Glyn Baines a’i ferch Helen Baines.