Pirate.ie – archiving the Irish pirate radio boom from 1978-1988

19:00, 19 Tachwedd 2021

Am ddim

Sgwrs ar-lein yn Saesneg gan Dr John Walsh

Ar waethaf bodolaeth sin radio peirat fawr yn Iwerddon cyn y 1990au, mae’r ffenomen yn dal heb ei hastudio lawer o’i chymharu â gwledydd eraill sydd â thraddodiad o ddarlledu heb drwydded, fel y DU a’r Iseldiroedd. Er mwyn gwneud ymchwil o’r fath, mae angen gwaith pellach ar ail-lunio cofnod hanesyddol sector nad oedd yn naturiol yn archifo ei raglennu yn systematig. Mae Pirate.ie yn archif ar-lein agored o recordiadau hanesyddol o’r ddegawd 1978-1988, pan gyrhaeddodd radio peirat ei uchafbwynt oherwydd bylchau cyfreithiol ac anallu’r dosbarth gwleidyddol i reoleiddio’r sector. Roedd llawer o orsafoedd mawr yn anelu at wrandawyr Prydeinig neu yn gosod trosglwyddyddion ar hyd y ffin â Gogledd Iwerddon, gan roi dimensiwn trawsgenedlaethol i radio peirat Gwyddelig. Yn y cyflwyniad hwn, bydd John Walsh, cyd-sylfaenydd Pirate.ie, yn egluro datblygiad archif recordiadau radio peirat Gwyddelig ac yn honni bod gan y sector oblygiadau pellgyrhaeddol i ddiwylliant, cymdeithas, economeg a gwleidyddiaeth.

Mae Dr John Walsh yn Ddirprwy-Ddeon ar Gydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth yng Ngholeg y Celfyddydau, Gwyddorau Cymdeithasol ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Cenedlaethol Iwerddon, Galway. Mae hefyd yn Uwch-ddarlithydd yng Ngwyddeleg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau a Diwylliannau. Un o’i arbenigeddau yw astudiaethau cyfryngau ac archifau.

Ewch i wefan Cwmulus er mwyn cofrestru: