Symposiwm Salmau Cân Edmwnd Prys a’u Gwaddol

17:30, 29 Tachwedd 2021

Ar-lein (drwy’r Llyfrgell Genedlaethol)

Sesiwn yn rhan o symposiwm rhithwir i nodi 400 mlwyddiant cyhoeddi Salmau Cân Edmwnd Prys, y llyfr Cymraeg cyntaf i gynnwys cerddoriaeth wedi’i hargraffu. Yn ei sgwrs ‘Mydryddu’r Salmau: pedwar o olynwyr Edmwnd Prys’ bydd Robert Rhys yn cyflwyno ac yn cloriannu salmau mydryddol Dafydd Jones o Gaeo, Morris Williams (Nicander), Gwilym Hiraethog a Gwynn ap Gwilym.