Cyfle i weld y darlun ‘The House of Cards’ (tua 1740-41) gan Jean-Siméon Chardin, sef portread o fachgen o’r enw Jean-Alexandre Le Noir. Mae’r darlun ar daith o gwmpas y tair oriel sy’n rhan o bartneriaeth ‘Campwaith’ Oriel Genedlaethol Llundain – sef Oriel Davies, Amgueddfa Beacon yn Swydd Cymbria, ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Mae i’w weld ochr yn ochr â dau gomisiwn newydd sy’n cysylltu’r 1700au a’r dwthwn hwn – gwaith ‘cinetig’ gan yr arlunydd Charlie Cook am y syniad o ddyfalbarad chwareus sydd yn y paentiad, a gwaith y darlunydd Alyn Smith, sydd wedi creu set o 15,000 o gardiau a fydd yn cael eu gwneud ar y cyd â thrigolion lleol.