Aildanio: Gwobr Gelf 2022 – Seremoni yn ffrydio’n fyw o oriel G39 ar AM o 18:30

18 Tachwedd 2022

Mae DAC yn falch iawn i’ch gwahodd i ffrwd byw Gwobr Gelf 2022 drwy AM. Bydd capsiynau a BSLI ar gael. Peidiwch â cholli’r cyfle i ddarganfod mwy am y gwaith sydd wedi cyrraedd yr arddangosfa a phwy sydd wedi derbyn Gwobr Gelf 2022.

Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’. Yn dechrau yng Nghaerdydd yn g39, bydd yr arddangosfa yn teithio ar draws Cymru rhwng Tachwedd 2022 a Medi 2023. Dyma gyfle arbennig i brofi gwaith celf weledol flaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru.

Bydd yna hefyd gyfle i fwynhau cip-olwg o’r gwaith celf sydd yn rhan o’r arddangosfa ar dudalen flaen AM ddydd Llun a dydd Mawrth.

Cliciwch yma i ymuno â’r ffrwd am 18:30 heno!