Dewch ar antur Rufeinig gyda ni! Ymunwch â ni am noson llawn hwyl yn yr Amgueddfa o gysur eich cartref.
Dyma fydd yn digwydd:
– Adeiladu cuddfan, gwisgo fel Rhufeiniaid, a pharatoi am antur hollol unigryw drwy’r Amgueddfa.
– Ewch tu ôl i’r llenni i storfeydd yr Amgueddfa, i ddarganfod trysorau Rhufeinig yr hen Isca.
– Ymunwch â galwad fideo fyw arbennig i weld adeilad mwyaf enwog Rhufain – y Colosseum!
– Paratowch i deithio’n ôl mewn amser, er mwyn hyfforddi fel llengfilwyr.
– Barod am wledd? Cewch ddysgu beth oedd y Rhufeiniaid yn ei fwyta, cyn paratoi danteithion blasus adref!
– Archwiliwch Gardd Rufeinig Caerllion mewn ymweliad rhithiol 360, cyn profi eich gwybodaeth mewn cwis ar-lein.
– Ymlaciwch i wylio ffilm cyn gwely, ac yna ymuno â sesiwn fyfyrio, lle byddwn yn ymweld â ffynnon sanctaidd hudol.
– Mwynhewch brecwast yn yr ardd, cyn creu gardd berlysiau a thrysorau Rhufeinig!