Artistiaid Ifainc Cymru / Young Welsh Artists

19 Tachwedd 2022 – 28 Ionawr 2023

Ym mis Tachwedd 2022 bydd Artistiaid Ifainc Cymru – Young Welsh Artists yn dychwelyd i MOMA Machynlleth. Wedi’i sefydlu yn 2020, mae’r arddangosfa flynyddol yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae trydedd arddangosfa AIC-YWA yn cyflwyno wyth artist ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o Gymru, gyda’u disgyblaethau’n amrywio o serameg a ffotograffiaeth i beintio a gosodiadau.