Dewch i ymweld â ni y gaeaf hwn i weld Azadi, arddangosfa gan yr artist Naz Syed o Ziba Creative sy’n dathlu cymuned a diwylliant a threftadaeth Bersiaidd drwy bompomau prydferth o undod, diolchgarwch a gobaith o bedwar ban byd.
Artist gweledol cymdeithasol Cymreig ac Iranaidd yw Naz. Mae hi’n frwdfrydig dros grefftiaeth, cymuned a lledaenu caredigrwydd drwy greadigrwydd.
Archwiliwch blât ffrwythau wedi’i greu o bompomau lle y gallwch chi ddathlu bywyd llawn lliw a llawenydd fe than o’r ŵyl Bersiaidd Shab-e Yalda. ‘Noson Yalda’ yw’r noson hiraf a thywyllaf (ystyr Yaldā yw aileni’r haul) ac mae’n ddathliad o fuddugoliaeth goleuni ar dywyllwch.
Yn ystod Shab-e Yalda mae trawsnewid yn digwydd – mae’r aros ar ben, mae goleuni yn disgleirio ac mae daioni yn teyrnasu. Caiff ffrwythau a chnau eu bwyta, ac mae pomgranadau a melonau dŵr yn arwyddocaol iawn. Mae lliw coch y ffrwythau hyn yn symboleiddio arlliwiau rhuddgoch y wawr a golau bywyd.
Mae rhan o’r arddangosfa yn cysylltu â phatrymau a golau hudol saernïaeth Iranaidd, a ysbrydolwyd gan y Mosg Nasir-Ol Molk yn Shiraz, Iran, sy’n cael ei alw y mosg enfys/pinc, ac sy’n dod yn fyw gyda golau’r haul mewn caleidosgop o liwiau sy’n cael eu hadlewyrchu drwy’r patrymau mosaig prydferth. Crëwyd gan Naz mewn cydweithrediad â Kate Verity a’r gymuned.