Bore coffi Dod i Ddangos

10:00, 8 Hydref 2022

Fel rhan o ŵyl Cynefin a Chymuned 2022 bydd bore coffi ‘Dod i Ddangos’ yn cael ei gynnal rhwng 10 a 12, ddydd Sadwrn yn llyfrgell gymunedol Dyffryn Ogwen. Gallwch arddangos hen luniau, hen greiriau, rhannu straeon a darganfod os oes gan rywun arall syniad am y stori tu ôl iddynt. Bydd hefyd ffilmiau am hen gymeriad o’r ardal yn cael eu dangos. Mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am hanes yr ardal. E-bostiwch chris@ogwen.org am fwy o wybodaeth.