Gall ymwelwyr â Chastell Biwmares dros benwythnos gŵyl y banc dreiddio i fywyd y 12fed ganrif ar ei orau — gyda gŵyl ganoloesol flynyddol y safle yn dychwelyd.
Gall ymwelwyr ddechrau trwy archwilio gwersyll canoloesol y safle – lle gallan nhw ddysgu am bopeth o wneud saethau a gwaith lledr i goginio canoloesol, gemau a mwy.
Hefyd, gall plant dan 13 oed fachu cleddyf ac ymuno â hyfforddiant dril yn Ysgol Farchogion fawreddog y Castell, cyn cael eu rhoi ar brawf mewn brwydr fythgofiadwy rhwng yr Arglwydd Gerard de Rhodes a Chapten Nicholas Horton ar ddiwedd pob dydd.