Sgwrs yn Gymraeg gan Y Prifardd Myrddin ap Dafydd – gyda chyfieithiad opsiynol
Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn dilyn llythyr Ifan ab Owen Edwards at ddarllenwyr Cymru’r Plant yn rhifyn Ionawr 1922. Bu’r ymateb yn syfrdanol. Cyn diwedd y flwyddyn roedd gan Adran Treuddyn (adran gyntaf y mudiad) 97 o aelodau ac yn cynnal gweithgareddau Cymraeg cyson. Mae Llwybr Clawdd Offa yn mynd drwy ganol y pentref. Dros y blynyddoedd nesaf, digwyddodd sawl peth yn y Gymraeg ‘am y tro cyntaf’: gorymdeithiau ieuenctid, gwersylloedd haf, eisteddfod genedlaethol ieuenctid, mabolgampau Cymraeg, sinema Gymraeg…
Mewn canrif, roedd yn naturiol y byddai sawl argyfwng yn gwasgu ar y mudiad a’i staff. Cafodd yr Ail Ryfel Byd, yr Arwisgo, argyfwng Thatcheraidd a arweiniodd at streic yr athrawon, Clwy’r Traed a’r Genau a Chovid-19 i gyd effaith fawr ar yr Urdd. Ond mae mudiad yn dangos ei haearn wrth wynebu anawsterau. Wrth edrych yn ôl ar hanes Canrif yr Urdd heddiw, y canfyddiad rhyfeddaf yw bod cynifer o sefydliadau a changhennau o’n diwylliant cyfoes wedi’u gwreiddio yn gyntaf yng ngweithgareddau’r mudiad hwn.
Cofrestrwch ar wefan Cwmulus: