Mae’r Pwerdy yn falch i fod yn ôl yn y gêm o’r diwedd, ac i allu cyflwyno Night Out / Noson Allan arbennig iawn arall ar nos Sadwrn 14eg Mai am 7.30yh gyda Ceri Rhys Matthews.
Mae tocynnau ar gael o siop Ffab, Llandysul neu ar y drws, ac yn gyfyngedig i 40 sedd.
Pris £10/£8 gostyngiadau. Talwch mewn arian parod yn unig.
Mae’r noson, yng nghwmni Ceri Rhys Matthews, yn mynd â ni am dro cerddorol a sgyrsiol distrwythur drwy strydoedd Abertawe drwy gyfrwng alawon ffliwt digyfeiliant, a thrwy gyfrwng hanesion tref ei Mabinogi sy’n cael eu cofio a’u hanghofio, eu cam-gofio, eu dychmygu, a’u breuddwydio.