Wyt ti rhwng 10-28 oed ac yn ffansio cwrdd â ffrindie newydd? Dysgu sgiliau newydd? Mynd ar dripiau? Chwarae chwaraeon? Gweithio fel tîm? A cael lot o chwerthin a sbort!
Wel dere i ymuno â CFfI Felinfach nos Lun nesa, 12 Medi am 7:30 yn Neuadd Felinfach.
Mae croeso mawr i aelodau hen a newydd!
Pam ymuno?
Cei gyfle i gymdeithasu bob nos Lun am 7:30-9:30 yn Neuadd Felinfach. Cei hefyd gyfle i greu ffrindiau newydd, datblygu sgiliau gwahanol a chystadlu mewn amryw gystadlaethau!
Ishe gwybod mwy?
Am fwy o wybodaeth, paid ag oedi â chysylltu gyda Mared Jones ar 07527618253.