Bydd y sgwrs yma yn Saesneg gan David Sprake o Brifysgol Glyndŵr yn amlinellu’r wyddoniaeth sy tu ôl i’r newid yn yr hinsawdd a rhai o’r dulliau y gellir yn ymarferol eu defnyddio i’w drwsio. Bydd yn ymchwilio i orddibyniaeth y ddynoliaeth ar egni tanwydd ffosil a sut mae hynny wedi achosi newidiadau yn yr atmosffer, a hynny yn ei dro yn achosi i’r hinsawdd newid ar raddfa byd-eang.
Bydd ail hanner y ddarlith yn edrych ar ffynonellau amgen o danwydd ac yn ystyried a allan nhw weithio yn ymarferol yn y byd sydd ohoni, yn ogystal â beth gellir ei wneud i liniaru ar yr hyn sydd wedi cael ei allyrru i’r atmosffer yn barod. Bydd y ddarlith yn gorffen wrth edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn rhwystro newid rhag digwydd.