Byddwch yn archeolegydd am y diwrnod yng Nghastell Coch lle bydd plant o bob oed yn gallu cloddio am goron goll Llywelyn ap Gruffydd – wrth ddarganfod trysorau lu gan gynnwys darnau arian a chopïau o darianau hynafol.
Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddysgu am goron goll Llywelyn ap Gruffydd, gyda theuluoedd hen ac ifanc yn helpu i chwilio am dlysau coll Cymru.