Cofio’r Bugail – Panel Drafod Hedd Wynn

09:00, 1 Mawrth 2022

£10 am un ddolen

Mae panel o arbenigwyr ynghyd, y tro hwn i drafod y ffilm eiconig Gymraeg, Hedd Wyn. Mae’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael enwebiad am Oscar nôl yn 1994 yn dilyn hanes y bardd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu’n arbennig at rai sy’n astudio’r ffilm fel rhan o faes llafur CBAC, ond mae’n agored i bawb.

Fel arfer, mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn ein Stiwdio Theatr ond, eleni, byddwn yn recordio’r panel yn trafod ac yna bydd ar gael i ddigsyblion ei wylio (yn yr ysgol, neu o adref) drwy archebu a derbyn dolen i fideo Vimeo fydd ar gael i’w wylio am 15 diwrnod o’r 1af o Fawrth.