Dewch draw i’r Amgueddfa rhwng 10yb-12.30yp i ddysgu mwy am Amgueddfa Wlân Cymru a’r datblygiadau diweddaraf.
Cewch gyfle i weld y crefftwyr yn arddangos ar y peiriannau hanesyddol a gwirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru ar waith.
Bydd cyflwyniad gan staff Amgueddfa Wlân Cymru am 10.30yb ac yna te a chacen yn ogystal a stondinau cymunedol.
RSVP wool@museumwales.ac.uk erbyn 25 Mai 2022