Noson yn galeri g39 yng Nghaerdydd i lawnsio arddangosfa gelf ‘Aildanio’ DAC, gan hefyd datgelu pwy sydd wedi ennill y wobr gelf.
Mi fydd hefyd yn gyfle i glywed rhai o beirdd a llenorion y gystadleuaeth ‘geiriau creadigol 2022’ ar y pwnc ‘Aildanio’ yn darllen eu gwaith, wrth iddynt rhoi lawnsiad swyddogol i’r llyfr.
Ar ben hyn i gyd, fydd yn dathliad swyddogol o benblwydd DAC yn 40 oed!
Y bore trannoeth, rhwng 10.30yb a 12pm, mi fydd ‘Clwb brecwast/ trafodaeth galeri gyda’r beirniaid Fran Ledanio Flaherty a Anthony Shapland. Sesiwn anffurfiol fydd hwn, yn cynnig cyfle i bawb ymateb i’r arddangosfa.
Mi fydd arddangosfa gelf ‘Aildanio’ yn aros yn g39 hyd at 17ain o Rhagfyr, ac wedyn yn mynd ar daith ar hyd a lled galeriau Cymru:
Cynon Valley Museum 7fed Ionawr – 11eg o Chwefror 2023
Galeri, Caernarfon – 4ydd o Fawrth – 5ed o Ebrill 2023
Ty Pawb, Wrecsam – 21ain o Ebrill – 27ain o Fai 2023
Oriel Davies, Drenewydd 9fed o Fehefin – 9fed Gorffenaf 2023
Glynn Vivian, Abertawe – 22ain o Gorffenaf – 3ydd o Fedi 2023
Dewch yn llu i fwynhau’r celf a llenyddiaeth, i gefnogi cydraddoldeb, ac i ddathlu amrywiaeth!