Cymdeithas Gymraeg Trefynwy

10:30, 3 Medi 2022

Am ddim

Annwyl Bawb,

Cymdeithas Gymraeg Trefynwy — Cyfarfod Anffurfiol — Tŷ Price Trefynwy. Dydd Sadwrn 3 Medi am 11yb

Mae Covid a gostyngiad sylweddol yn y cnewyllyn o bobl sydd ar gael i helpu wedi effeithio ein gweithgareddau.

Rwyf wedi archebu ystafell yn Nhŷ Price ar y 3ydd o Fedi am 11yb ac yn gwahodd unrhyw un sydd ar gael i ddod i sgwrsio’n anffurfiol (yn Saesneg) i weld beth allwn ni roi at ei gilydd yn y sector gwirfoddol i hybu’r diwylliant Cymraeg/Cymreig mewn ffordd sy’n parhau i gefnogi dau achos pwysig, sef yr argyfwng dyngarol yn y Wcráin a darparu ysgol Gymraeg newydd i Drefynwy. Yn fyr “Yr Iaith ar waith”. “The Welsh Language at Work.” Dewch am goffi cyn y cyfarfod o 10.30am ymlaen. Croeso cynnes iawn i bawb.

Cofion gorau,

Robin

Ysgrifennydd