Dewch i glywed y gerddoriaeth gorawl orau o’r tri degawd diwethaf yng nghwmni Côr Caerdydd sy’n nodi ei ben-blwydd yn 30 oed eleni.
Bydd cyfle i glywed y perfformiad cyntaf yn y brifddinas o waith gan Paul Mealor a gomisiynwyd gan y côr i nodi’r pen-blwydd, cyfansoddiad newydd gan Euros Rhys, a threfniannau o ganeuon poblogaidd gan gyfansoddwyr eraill o Gymru.
Bydd Côr Ysgol y Wern ac artistiaid eraill hefyd yn perfformio.
Bydd cyfraniad o elw’r gyngerdd yn mynd at DEC Cymru.