Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd

18:30, 14 Mehefin 2022 – 21:30, 15 Mehefin 2022

Rhaid cofrestru i fynegi diddordeb, yna bydd y 50 sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad

GwyrddNi ydan ni – mudiad gweithredu ar newid hinsawdd wedi ei sefydlu gan chwe menter gymdeithasol yng Ngwynedd – a chyn hir byddwn yn cynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Nantlle. Bydd croeso i unrhyw un o’r ardal ymuno â’r Cynulliadau, a hynny mewn awyrgylch hamddenol. Rydym yn awyddus i glywed eich llais a’ch cyfraniad unigryw chi. Does dim rhaid i chi wybod unrhyw beth o flaen llaw, y cwbl sydd angen yw bod yn barod i rannu eich barn a’ch syniadau a gwrando ar farn a syniadau pobl eraill. Cwestiwn canolog y Cynulliadau fydd:

Sut allwn ni yn Nyffryn Nantlle ymateb yn lleol i newid hinsawdd?

Bydd Cynulliad cyntaf Dyffryn Nantlle yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Fron, ar 14eg a 15ed o Fehefin rhwng 6.30 a 9.00 o’r gloch, gyda swper a phaned am ddim. Hwn fydd y cyntaf o bedwar Cynulliad i gael ei gynnal yn yr ardal eleni. Bydd aelodau’r Cynulliad yn gwrando, rhannu eu barn, trafod syniadau a chlywed gan nifer o bobl creu cynllun gweithredu hinsawdd Dyffryn Nantlle ar y cyd. Yn dilyn y Cynulliadau byddwn yn gwireddu’r cynllun gyda’n partner lleol, Yr Orsaf, a’r gymuned.

Bydd 50 o bobl yn mynychu’r Cynulliadau er mwyn cynrychioli’r gymuned gyfan. Er mwyn gallu dethol y bobl hyn byddwn angen ychydig o wybodaeth amdanoch, gan gynnwys oedran, rhyw, grŵp ethnig ac yn y blaen. Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd y Cynulliadau yn gwbl saff, ac y byddwn yn dilyn rheolau covid bob amser. 

Os ydych chi’n un-ar-bymtheg neu’n hyn, ac y byddech yn hoffi bod yn rhan o’ch Cynulliad lleol, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb fer wrth fynd i Bit.ly/GwyrddNiNantlle, neu mi fedrwch gysylltu gyda fi, eich Hwylusydd lleol, ac mi alla i lenwi’r ffurflen gyda chi dros y ffôn. Gallwch gysylltu gyda fi ar grug@deg.cymru / 07536974930. Mae taflen ‘Cwestiynau Cyffredin’ wedi ei chynnwys gyda’r llythyr hwn am ragor o wybodaeth, ond os oes ganddoch unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu. 

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb ydi Dydd Llun, 4ydd o Ebrill 2022

Wedi’r dyddiad cau byddwn yn casglu’r data ac yn dethol aelodau’r Cynulliad. Peidiwch â digaloni os na chewch eich dethol; bydd nifer o gyfleoedd i bawb gymryd rhan rhwng ac ar ôl y Cynulliadau. Diolch am eich amser a’ch diddordeb.