Sut allwn ni yn Nyffryn Peris ymateb yn lleol i newid hinsawdd?
Dros 8 sesiwn, rhwng mis Mai a diwedd y flwyddyn, bydd hyd at 50 aelod Cynulliad yn gwrando, rhannu barn, trafod syniadau a chlywed gan ystod o bobl cyn cyd-greu cynllun gweithredu ar gyfer Dyffryn Peris. Ar ôl y Cynulliadau byddwn yn cyflawni’r cynllun gweithredu gyda mudiadau partner, y gymuned a chefnogaeth arianol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol.
‘Rydym eisiau denu amrediad mor eang a phosib o brofiadau a lleisiau i gyfrannu felly rhannwch y cyfle, da chi!
Bydd Cynulliadau Dyffryn Peris yn cymryd lle dros 8 sesiwn yn cyfateb a 4 diwrnod llawn.
Bydd sesiwn 1 yn Y Ganolfan, Llanberis ar 17/05/2022 o 19:00 – 21:00
Bydd sesiwn 2 yn Y Ganolfan, Llanberis on 18/05/2022 o 09:30 – 13:30
Bydd aelodau’r cynulliad yn penderfynu sut a pryd bydd sesiynau 3-8 yn cymryd lle dros weddill y flwyddyn. Darperir diodydd a byrbrydau.
Os ydych chi’n 16oed neu’n hyn, gallwch fynegi diddordeb i gymeryd rhan wrth fynd i https://bit.ly/GwyrddNiPeris neu, cysylltwch gyda fi ac mi alla i lenwi’r ffurflen gyda chi dros y ffôn.
Gallwch gysylltu gyda fi ar lowri@deg.cymru / 07850352478