Sgwrs ar-lein yn Gymraeg gan Pat Williams – gyda chyfieithiad opsiynol
Bydd y sgwrs hon yn edrych ar hen chwedlau am gymeriadau beiblaidd a hanesion saint sydd wedi eu cadw mewn llawysgrifau canoloesol; ond yn wahanol i’r Mabinogion nid ydynt wedi cael y sylw a haeddant. Yn yr Ysgrythurau eu hunain prin yw’r ffeithiau am y cymeriadau beiblaidd a bortreedir yn y chwedlau hyn ac i ddiwallu’r chwilfrydedd torfol aeth awduron yr Oesoedd Canol ati i greu storïau amdanynt hwy a’u gorchestion sydd mor anhygoel o anghredadwy ag anturiaethau James Bond a Dr Who ein dyddiau ni.
Roedd Dr Pat Williams yn ddarlithydd yn Adran Geltaidd Prifysgol Lerpwl, wedyn yn ddiweddarach yn Adran Geltaidd Prifysgol Manceinion. Iaith a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yw ei phrif faes ymchwil ac mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau ar destunau Cymraeg Canol.
Cliciwch islaw er mwyn cofrestru: