ninnau mewn gŵyl fawr Gymreig yn Nhregaron, mae’n gyfle i ddathlu bod digwyddiadau’n ôl mlaen wedi Covid – o gyngherddau, sioeau a rasys hwyaid lleol-iawn i wyliau enfawr mewn cae.
Yn y sesiwn agored hon gan Calendr360 byddwn yn rhannu profiadau a chynghorion ar hyrwyddo digwyddiadau’n llwyddiannus yn y Gymraeg, ac yn edrych ar bosibiliadau datblygu ap newydd i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod be’ sy mlaen a be’ sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Yn ymuno gyda ni fydd Mared Jones (Tregaroc, y Sioe Fawr), Nico Dafydd (Radio Beca), Deian ap Rhisiart (Cwmpas), ac mae gwahoddiad i aelodau unrhyw fudiad neu gymdeithas ymuno a chyfrannu.