Diwrnod Agored Canolfan Tir Glas

09:00, 19 Mawrth 2022

Diwrnod Agored Canolfan Tir Glas – Dydd Sadwrn, 19eg Mawrth 2022

Mae’r cysylltiad agos rhwng gweledigaeth y Brifysgol a’i hamgylchedd gwledig a sefydlwyd gan ei sylfaenwyr cynnar wedi parhau hyd heddiw. Roedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant Llambed, yr Esgob Thomas Burgess, Esgob Tyddewi ac Esgob Caersallog, yn aelod gwreiddiol o Gymdeithas Amaethyddol Odiham yn ei esgobaeth yn Lloegr. Roedd ganddo empathi mawr tuag at yr amgylchedd gwledig, diddordeb brwd a dealltwriaeth drylwyr o amaethyddiaeth a phwysigrwydd diwygio amaethyddol, ynghyd â phwysigrwydd hynny i’r gymuned. Yn Llambed, roedd gan yr Esgob Burgess barch aruthrol at y Gymraeg a’i diwylliant ac i ddyfnhau dysg a gwybodaeth alwedigaethol i bawb. Cawn ein meithrin gan yr hanes hwn yn ein hymatebion i heriau’r presennol. Bydd y cefndir hwn yn ganolog i’r modd yr ymatebwn i heriau’r presennol.ac mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu rhannu gan aelodau’r ganolfan.

Yn dilyn lansiad Canolfan Cydnerthedd a Harmoni ar ddydd Gwener 19eg o Dachwedd 2021 a Lansiad Swyddogol Canolfan Tir Glas ar nos Iau 17eg o Fawrth 2022 bydd y ganolfan yn cynnaly Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn 19eg o Fawrth 2022.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y thema ‘Dysgu o Fyd Natur’, a cheir cyfraniadau gan ysgolheigion, arbenigwyr bwyd a ffermio lleol, myfyrwyr, mentrau lleol a mentrau cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyflwyniadau, sgyrsiau byrion, arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol dan do ac yn yr awyr agored, sy’n cynnwys teithiau cerdded o amgylch y campws a’r dref. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar thema cydnerthedd, gan gynnwys addysg, llesiant, bioamrywiaeth ac adfer natur.

Mae’r Diwrnod Agored  yn gyfle arbennig i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Brifysgol ac i gyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau sy’n ymwneud â phrif themâu Canolfan Tir Glas ar ddechrau cyfnod cyffrous newydd i’r Brifysgol yn Llambed ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

I gadw lle ar y sesiynau blasu, ewch i’n tudalen Eventbrite. https://www.eventbrite.co.uk/e/canolfan-tir-glas-19-mawrth-2022-tickets-276690337247

Manylion gweithgareddau’r diwrnod:

09:30 – 09:30  – Cofrestru yn Neuadd y Celfyddydau 

09:45  – 10:00 – Croeso a Chyflwyniad i weithgareddau’r diwrnod: Gwilym Dyfri Jones, Profost – Dwyieithog gyda Gwasanaeth Cyfieithu

Gwilym Dyfri Jones, Profost sy’n gyfrifol am gampws Caerfyrddin a Llambed. Bydd ei rôl fel Profost yn sicrhau bod gan ddatblygiad y ddau gampws ymdeimlad clir o le er mwyn hyrwyddo eu nodweddion unigryw fel cyrchfannau o ddewis ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Fel Profost, mae’n arwain gweledigaeth Canolfan Tir Glas ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

10:00 – 11:00 – Orig yng nghwmni’r panel arbenigol   Dwyieithog gyda Gwasanaeth Cyfieithu

Anna Jones yw Rheolwr Cenhadaeth a Chynaliadwyedd Dinesig Y Drindod Dewi Sant a gweithreda fel aelod o dîm Inspire yn y Brifysgol. Mae wedi cadeirio gweithgor Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi cymryd rhan weithredol yn y gwaith o helpu i ddatblygu gweledigaeth Canolfan Tir Glas ar gyfer Campws Llambed. Bydd Anna yn cadeirio’r sesiwn drafod hon.

Panel arbenigol:

Patrick Holden – Cyfarwyddwr gwreiddiol yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy, sy’n gweithio’n rhyngwladol i gyflymu’r trawsnewidiad tuag at systemau bwyd mwy cynaliadwy.

Richard Dunne  – Mae gan Richard 30 mlynedd o brofiad dysgu a bu’n bennaeth ysgol am 18 mlynedd mewn ysgol a dderbyniodd sgôr Eithriadol gan Ofsted. Mae hefyd yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy a Phrosiect Harmoni, ac yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n Athro Ymarfer gyda’r Drindod Dewi Sant.

Simon Wright – Mae Simon yn Athro Ymarfer gyda’r Drindod Dewi Sant. Mae’n eiriolwr adnabyddus dros gynnyrch bwyd a diod Gymreig, amaethyddiaeth gynaliadwy a’r diwydiant lletygarwch. Yn 2012 cafodd ei benodi’n Llysgennad Bwyd Lleol Cymru am ei “ymroddiad a’i ymrwymiad i fwyd a diod Gymreig”.

Carwyn Graves – Mae Carwyn yn awdur, garddwr a ieithgi. Ef yw awdur Afalau Cymru (2018) a Welsh Food Stories (i’w cyhoeddi ym mis Mai 2022.) Roedd Carwyn yn rhan o’r grŵp fu’n gyfrifol am sefydlu’r casgliad cenedlaethol o afalau Cymreig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. 

Mae’r Athro David Kirby yn arloeswr ym maes addysg entrepreneuriaeth yn y DU ac yn 2006 dyfarnwyd iddo Wobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter. Mae’n Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 1 ~ 11:20 – 11:50

Ysbrydolrwydd a Llesiant     SESIWN SAESNEG

Celfyddydau 1 – Gellir ystyried bod llesiant yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau – o incwm, safle cymdeithasol, rhywedd, oedran a chyd-destun diwylliannol. Cyfeirir at y dimensiwn ysbrydol hefyd mewn astudiaethau academaidd, ond fel arfer, fel agwedd ar y cyd-destun diwylliannol yn unig. Mae’r cyflwyniad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydolrwydd ar gyfer llesiant. Yn seiliedig ar ganlyniadau prosiect ymchwil sy’n cymharu’r DU â Brasil, mae’n herio’r syniad pennaf o lesiant. Mae’n herio agwedd swyddogaethol yn unig tuag at ysbrydolrwydd a llesiant drwy dynnu sylw at bwysigrwydd astudio’r hyn sy’n bwysig i bobl. Mae Bettina E. Schmidt yn Athro Astudio Crefyddau ac Anthropoleg Crefydd yn Y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy yn Llambed ac yn Gydlynydd Ymchwil yn y Dyniaethau.

Cynnal Parch rhwng Cenedlaethau: Plannu ar gyfer cydlynant ar ôl Covid-19 SESIWN SAESNEG       

Neuadd Lloyd Thomas –  Mae ymchwil yn dangos y gwelwyd ymchwydd mewn ymgysylltiad cymunedol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig Covid-19 ym Mhrydain – ar lefel y DU yn ogystal â lefel gymunedol fwy lleol (Mao, Fernqandes-Jesus, Ntontis & Drury, 2020). O gynnal y gweithredu dinesig drwy arddio cymunedol, a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, dangosodd yr ymchwil hwn fod potensial i ddod â phobl at ei gilydd o wahanol gefndiroedd ar gyfer pwrpas cyffredin sy’n rhydd o safbwyntiau a barn a ragdybiwyd. Yn ogystal, mae gweithgareddau o’r fath hefyd wedi cael eu nodi fel rhai sydd o fudd i les seicogymdeithasol unigolion a chymunedau. Archwiliodd astudiaeth ddiweddar gan Spano, et al (2020, t8) fanteision llesiant seicogymdeithasol gweithgareddau garddio cymunedol a daeth i’r casgliad bod amrywiaeth o ganlyniadau positif hefyd wedi datblygu cydlyniant cymdogol, ymddiriedaeth a rhwydweithio cymdeithasol. Mae math arall o ymchwil yn cefnogi manteision posib datblygu ‘mannau gwyrdd’ sy’n gysylltiedig â lleihau straen a chynnydd mewn cydlyniant cymdeithasol (DE Vries et al, 2913, 729). Tynnodd Comisiwn Coedwigaeth Lloegr (2020, t.10) hefyd sylw at ystod o fanteision o fyw mewn mannau gwyrdd, gan gynnwys ‘Cyfraniadau newid hinsawdd, manteision amgylcheddol, manteision economaidd yn ogystal â buddion cymdeithasol’. Bydd y cyflwyniad hwn yn cynnig bod gan blannu ar gyfer cydlyniant cymdeithasol, a welwyd yn ystod y 18 mis diwethaf ym Mhrydain, y potensial i gynnal parch rhwng cenedlaethau ar gyfer y dyfodol. ‘There is a strong need to advance into further high-quality studies on this research topic given that gardening has promising applied implications for human health, the community, and sustainable city management’ (Spano, et al, 2020, t.1). Mae’r Athro Cyswllt Caroline Lohmann-Hancock yn Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen: MA Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas a Rheolwr Sefydliad Graddau Ymchwil. Mae Phillip Morgan yn ddarlithydd ac yn ymgeisydd PhD yn Y Drindod Dewi Sant. Mae’n darlithio ar yr MA Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas, BA Eiriolaeth a BA Gymdeithaseg.

 

Hanes Bwydydd Cymru / Welsh Food Stories   SESIWN DDWYIEITHOG

Neuadd y Celfyddydau – Ystrydeb yw bwydydd Cymreig i lawer ohonom – cennin, cig oen a chacen gri. Ond mewn gwirionedd, bu gan Gymru draddodiad bwyd unigryw ac amrywiol, a oedd mewn sawl cyd-destun yn cynnig ffordd o fwyta iachach a mwy cynaliadwy na’n diet ni heddiw. Mae dybryd angen golwg newydd arnom ar fwyd Cymru – ddoe a fory… Mae Carwyn Graves yn awdur, garddwr a ieithgi. Ef yw awdur Afalau Cymru (2018) a bu’n rhan o’r grŵp a fu’n gyfrifol am sefydlu’r casgliad cenedlaethol o afalau Cymreig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Wedi ei ysbrydoli gan Natur: Anelu at Fusnes Harmonïaidd  SESIWN SAESNEG                                       

Celfyddydau 5 – Mae Christian Felices yn ddarlithydd Rheolaeth Busnes ac yn ymgeisydd doethuriaeth yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant. Mae e hefyd yn ffotograffydd brwd. Wedi ei ysbrydoli gan fyd natur, bydd y cyflwyniad hwn yn archwilio’r berthynas rhwng gwyddoniaeth, athroniaeth a natur yn y gobaith o sefydlu cysyniad newydd o fusnes harmonïaidd.  

Gobaith Natur(e’s) Hope   SESIWN GYMRAEG                                                                                       

Celfyddydau 4-  Arddangosfa gelf a chyflwyniad i’r gwaith celf a’r syniad y tu ôl i’r prosiect.
‘Man cychwyn fy ngwaith creadigol cyfredol Gobaith Natur(e’s) Hope yw’r llyfrau braslunio bach rydw i wedi bod yn eu cadw yn ystod Awr y Ddaear, lle dwi’n meddwl am y ddaear yn nhawelwch golau cannwyll. Fe wnaeth y meddyliau hyn fy arwain at y ffilm Hidden Life of Trees gan Peter Wohlleben (2017) coedwigwr ac awdur o’r Almaen ac at Suzanne Simard gwyddonydd ac athro yn British Columbia, Canada, Finding the Mother Tree (2021) a’r ymchwil y mae hi wedi’i  wneud ar gydgysylltiad coed, yr hen a’r ifanc yn ogystal â’r coed nad ydyn nhw’n fyw bellach. I fi, mae’r ymchwil yma’n gipolwg sy’n fy helpu i ystyried natur a’i ddatblygiad araf a’i roi yn ei gyd-destun fel y mae Wohlleben yn disgrifio datblygiad coed – mae’n digwydd ond mae’n cymryd amser hir iawn, mae’r cysyniad hwnnw’n ddiddorol. Mae gen i obaith am natur y tu hwnt i ddynoliaeth ac rwy’n gobeithio y bydd arafwch natur yn ei gwneud yn wydn ac yn ei helpu i oroesi.’  Mae Gwenllïan Beynon yn artist gweithredol, yn ddarlithydd ac yn hwylusydd gweithdai. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei liwt ei hun ar brosiectau unigol, yn darlithio’n llawn amser yng Ngholeg Celf Abertawe, gyda’r Drindod Dewi Sant, ac yn cynnal gweithdai yn achlysurol. Yn ei gwaith creadigol, mae’n archwilio naratif ac adrodd straeon o fewn delweddau, lle nad yw’n cynnwys gwaith darlunio, ac mae’r naratif yn agored i’w ddehongli.

__________________________________________________________________________________________

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 1 ~ 11:30 – 12:40

Ffilm Ddogfen gan Les Blank: ‘All in this Tea’.  SESIWN SAESNEG                                                         

Theatr Cliff Tucker – Fel rhan o ddathliad te Sefydliad Confucius, yn nigwyddiad Diwrnod Agored Canolfan Tir Glas, mae’n bleser gennym gyflwyno’r ffilm ddogfen hynod ddiddorol hon. Wedi’i dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm San Francisco 2007, mae’r ffilm hon yn dilyn yr arbenigwr te byd-enwog David Lee Hoffman i ardaloedd anghysbell yn Tsieina i chwilio am y te gorau wedi’u gwneud a llaw. Fel mewnforiwr te, arweiniodd obsesiwn Hoffam a’r ddiod hynafol hwn o ‘fagiau te di-flewyn ar dafod yn America’ i ranbarthau te pellennig yn Asia. Yn y broses, darganfu brinder te da wedi’u gwneud a llaw yn enwedig yn Tsieina, lle mae’r grefft hynafol o wneud te wedi bod yn ildio i gynhyrchu mas. Mae cyfrinachau gwneud te wedi cael eu trosglwyddo gan genedlaethau o wneuthurwyr te dros filoedd o flynyddoedd. Yn hwn, ei ffilm ddigidol gyntaf, mas Les Blank yn cymryd ei ddull sefyllfa bywyd go iawn i gofnodi hynny. Mae’r ffilm yn symud o leoliadau modern, trefol, i Tsieina fugeiliol na chaiff ei gweld yn aml gan orllewinwyr.  Lleoliad ac amser dangosiad :  11:30 – 12:40 Neuadd Cliff Tucker.   Cyfle hefyd i wylio’r ffilm yn rhithiol:- Rhagolwg Ffilm: https://www.youtube.com/watch?v=SD1Ho3Vt4TM                Methu mynychu’r ffilm mewn person? Dim problem! Gallwch ddefnyddio’r ddolen hon i wylio yn eich cartref eich hun unrhyw bryd rhwng 9:00 yb19eg Mawrth a 9:00 yb 22ain Mawrth                            Dolen Ffilm: https://vimeo.com/manage/videos/684405820 Cyfrinair: LBF_TEA_WALES

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 2 ~ 12:00 – 12:30

Arbenigedd SMART – Partneriaeth Maetholion Fferm Dyffryn Tywi    SESIWN SAESNEG                           

Neuadd Lloyd Thomas – Drwy ein gwaith yn y Ganolfan Ymchwil Amaethyddol yn Gelli Aur, mae Coleg Sir Gâr yn cefnogi’r diwydiant amaethyddol gydag arloesedd a datblygiad. Mae mwyafrif llethol y ffermwyr yn geidwaid cefn gwlad sy’n awyddus i gadw ecosystem gytbwys i genedlaethau’r dyfodol fyw a gweithio mewn cymunedau gwledig. Rydym yn datblygu systemau a phrosesau sy’n bodloni’r her o fwydo poblogaeth sy’n tyfu mewn ffordd gynaliadwy ac ecogyfeillgar. Mae Partneriaeth Maetholion Fferm Dyffryn Tywi yn dod â chwmnïau masnachol, cyllid Ewropeaidd / Llywodraeth Cymru a ninnau fel sefydliad ymchwil at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth a gynlluniwyd er budd pawb ac i arloesi mewn rheoli maetholion. Bydd ein gwaith ym maes casglu data a chymorth i wneud penderfyniadau yn helpu ffermwyr i fodloni rheoliadau deddfwriaethol newydd yn ogystal â dyheadau i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2040. John Owen yw Rheolwr y Prosiect.

Cadw Gwenyn yn Gynaliadwy   SESIWN DWYIEITHOG                                                                 

Celfyddydau 1  – Pam bod cadw gwenyn cynaliadwy mor bwysig a sut y gallwn ni gefnogi Cymdeithas Gwella Gwenyn a Bridio Gwenyn Bydd Selwyn Runnett a Peter Jenkins yn esbonio pam mae BIBBA yn cefnogi ffyniant a lles ein holl boblogaethau gwenyn presennol, gan gynnwys gwenyn mêl,  cacwn a gwenyn unigol yn ogystal â pheillwyr eraill.  https://bibba.com      

                                                                                                                                                       Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 2 ~ 12:00 – 13:10

Cydnerthedd, Harmoni ac Entrepreneuriaeth Gydgordiol: mynd i’r afael â’r Her Gynaliadwyedd              SESIWN SAESNEG                                                                                                                               

Neuadd y Celfyddydau – Mae’r cyflwyniad yn dadlau bod entrepreneuriaeth yn angenrheidiol i greu’r  unigolion a’r cymunedau cydnerth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r Her Gynaliadwyedd ac yn cydnabod ei fethiant i wneud hynny hyd yma. Mae’n dadlau bod angen model busnes mwy holistig, systemig newydd i unioni hyn sy’n harmoneiddio neu’n integreiddio’r pedwar budd traddodiadol economaidd, amgylchedd, trugarog a chymdeithasol. Mae’r dull yn seiliedig ar feddwl trwy systemau, Cyfraith Amrywiaeth Angenrheidiol Ashby ac Egwyddorion Harmoni. Mae’n creu model busnes sy’n mynd i’r afael ag Elw Net Triphlyg Elkington, Pobl a’r Blaned ac yn herio mantra Friedman mai cyfrifoldeb cymdeithasol busnes yw “gwneud cymaint o arian â phosib”. Mae’r cyflwyniad yn cyflwyno’r Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gydgordiol newydd, ac mae’n cyflwyno, i’w hystyried, ddwy o’i 40+ astudiaeth achos sy’n enghraifft o’r cysyniad mewn gwahanol sectorau diwydiannol ac amgylcheddau diwylliannol. Mae’r Athro David Kirby yn arloeswr ym maes addysg entrepreneuriaeth yn y DU ac yn 2006 dyfarnwyd iddo Wobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter. Mae’n Athro Ymarfer Y Drindod Dewi Sant. Mae Felicity Healey-Benson, IICED yn ddarlithydd ac ymgeisydd doethuriaeth y Drindod Dewi Sant, ac yn Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuriaid. Maen nhw’n sylfaenwyr y Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gydgordiol (HES)

Sesiynau Galw Heibio – Dim angen cadw lle ~ 12:00 – 13:10 

Archwiliwr Elfennau’r Amgylchedd Adeiledig Rhithwir    SESIWN DDWYIEITHOG                      

Celfyddydau 5 – Dewch i brofi Archwiliwr Elfennau’r Amgylchedd Adeiledig Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru am brofiad rhithiol ymarferol o sut i adeiladu adeiladau carbon isel. Bwriad Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru yw cynyddu’r defnydd o arferion carbon isel ar draws y sector adeiladu yn ogystal â gwella apêl y diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio elfennau gemau neu ddigideiddio’r broses adeiladu.  Mae’n defnyddio meddalwedd Archwiliwr Elfennau’r Amgylchedd Adeiledig Rhithiol (VBEEE) Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru a’n caledwedd realiti rhithwir uwch-dechnoleg ddiweddaraf.   Cafodd y rhaglen ei chyd-greu gan Y Drindod Dewi Sant a’r diwydiant ac mae’n galluogi dysgwyr i archwilio a phrofi’r broses adeiladu drwy adeiladu amrywiaeth o adeiladau gwahanol yn rhithiol, ac ar ôl eu cwblhau, mae’n galluogi dysgwyr i gymharu’r mesurau perfformiad, cynaliadwyedd a chost sydd wedi’u cynnwys ynddyn nhw. Dewch i weld sut allwch chi lansio eich gyrfa mewn adeiladu carbon isel gyda’r Drindod Dewi Sant. Cyflwyniad gan Gareth Evans a Julie Evans.

  

Llyfrgell

Arddangosfeydd llyfrgell ac arddangosfeydd ar gael ar y diwrnod  -Galwch heibio o ganol dydd.

Arddangosfa 1 – ‘Merched? – amhosibl.’ Y merched cyntaf yng Ngholeg Dewi Sant a Choleg Hyfforddi’r Drindod

Arddangosfa 2 – Johan Nieuhof, teithiwr o’r 17eg ganrif yn Tsieina

Arddangosfa 3 – Dyddiau Dewi Sant o’r gorffennol

Arddangosfa 4 – ‘Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ (Cyngor Hil Cymru)

Arddangosfa 5 – Merched Cymru yn Tsieina – Bywydau pump o ferched yn ymestyn dros ddwy ganrif – Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r lansiad ar nos Wener 18fed Mawrth, cofrestrwch eich lle yma:- https://www.uwtsd.ac.uk/confuciusinstitute/events/

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 3 ~ 12:40 – 13:10

Garddio gyda Byd Natur     SESIWN GYMRAEG                                                                                 

Celfyddydau 1 – Adam yn yr Ardd fydd yn rhannu sut mae’n dilyn dulliau garddio dim-palu a garddio organig i ddiogelu a hybu bioamrywiaeth ei ardd.  Mae Adam Jones, o Sir Gaerfyrddin yn arddwr adnabyddus sydd newydd gyhoeddi ei lyfr cyntaf i blant – Dere i Dyfu. Mae Adam yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i nifer, gyda slotiau cyson ar Prynhawn Da, Heno a BBC Radio Cymru.  Mae hefyd wedi datblygu presenoldeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 18000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd). Dechreuodd Adam arddio pan oedd yn 3 blwydd oed gan ddilyn diddordeb ei dad-cu, ac erbyn hyn mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad. Mae’n garddio mewn ffordd organig, yn defnyddio’r system dim-palu ac yn cefnogi ac yn annog bioamrywiaeth yn ei ardd. 

                                                                                                                                                         Arwyddion Daearyddol Llywodraeth Cymru (GI)     SESIWN SAESNEG                                                

Neuadd Lloyd Thomas – Mae gan Fay Francis dros 35 mlynedd o brofiad a gwybodaeth am ddiwydiant Bwyd a Diod Cymru ac mae wedi gweithio’n agos gyda llawer o’i chwaraewyr allweddol ar draws ystod amrywiol o sectorau bwyd a diod. Ers 2009, mae Fay wedi bod yn arweinydd prosiect Contract Dangosyddion Daearyddol (GI) Llywodraeth Cymru ac mae wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cyngor polisi strategol Gwybodaeth Ddaearyddol i Lywodraeth Cymru. Fay yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl geisiadau Cymru sydd am ennill statws GI (UE a’r DU). Mae hi’n deall y meini prawf angenrheidiol, fformat y broses a’r iaith sydd eu hangen i sicrhau ceisiadau llwyddiannus UKGI ac EUGI. Mae Fay hefyd wedi helpu i greu’r “teulu” GI Cymreig unigryw lle gall gweithredwyr mawr a bach gydweithio ar weithgareddau hyrwyddo ar y cyd ac mae wedi annog cynhyrchwyr i rwydweithio â’i gilydd ac i ddysgu arfer gorau o rannu eu profiadau. Ers 2013 mae Fay wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau proffil uchel i hyrwyddo’r teulu o gynnyrch GI Cymreig gan gyfrannu at gryfhau’r arlwy Bwyd a Diod o Gymru a Thwristiaeth Bwyd Cymru. Fay yw unig Gyfarwyddwr Provenance & GI Consultancy Ltd a ffurfiwyd yn 2020

 

Gobaith Natur(e’s) Hope    SESIWN SAESNEG                                                                                                 

Arts 4 – Arddangosfa gelf a chyflwyniad i’r gwaith celf a’r syniad y tu ôl i’r prosiect. ‘Man cychwyn fy ngwaith creadigol cyfredol Gobaith Natur(e’s) Hope yw’r llyfrau braslunio bach rydw i wedi bod yn eu cadw yn ystod Awr y Ddaear, lle dwi’n meddwl am y ddaear yn nhawelwch golau cannwyll. Fe wnaeth y meddyliau hyn fy arwain at y ffilm Hidden Life of Trees gan Peter Wohlleben (2017) coedwigwr ac awdur o’r Almaen ac at Suzanne Simard gwyddonydd ac athro yn British Columbia, Canada, Finding the Mother Tree (2021) a’r ymchwil y mae hi wedi’i  wneud ar gydgysylltiad coed, yr hen a’r ifanc yn ogystal â’r coed nad ydyn nhw’n fyw bellach. I fi, mae’r ymchwil yma’n gipolwg sy’n fy helpu i ystyried natur a’i ddatblygiad araf a’i roi yn ei gyd-destun fel y mae Wohlleben yn disgrifio datblygiad coed – mae’n digwydd ond mae’n cymryd amser hir iawn, mae’r cysyniad hwnnw’n ddiddorol. Mae gen i obaith am natur y tu hwnt i ddynoliaeth ac rwy’n gobeithio y bydd arafwch natur yn ei gwneud yn wydn ac yn ei helpu i oroesi’. Mae Gwenllïan Beynon yn artist gweithredol, yn ddarlithydd ac yn hwylusydd gweithdai. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei liwt ei hun ar brosiectau unigol, yn darlithio’n llawn amser yng Ngholeg Celf Abertawe, gyda’r Drindod Dewi Sant, ac yn cynnal gweithdai yn achlysurol. Yn ei gwaith creadigol, mae’n archwilio naratif ac adrodd straeon o fewn delweddau, lle nad yw’n cynnwys gwaith darlunio, ac mae’r naratif yn agored i’w ddehongli.

Cinio (13:10 – 14:10) – Ni fyddwn yn gweini cinio – Bydd rhestr lleoliadau bwyta yn Llambed ar gael

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 4 14:10 – 15:20

Arddangosfa y Ganolfan Cwiltiau Cymreig – Cwiltiau Hudol Cymru    SESIWN SAESNEG                            Cyfle i glywed cyflwyniad arbennig gan Jen Jones. Syniad Jen Jones oedd agor canolfan a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gwiltiau Cymreig. Mae ei diddordeb brwd mewn casglu cwiltiau, carthenni a thecstilau Cymreig yn mynd nôl deugain mlynedd. Arweiniodd dyfalbarhad Jen at warchod a diogelu elfen hollbwysig o dreftadaeth Cymru. Cafodd hyn ei werthfawrogi gan Fenter Mynyddoedd Cambria, a benododd Jen yn Llysgennad Twristiaeth ar ei chyfer. Cafodd Menter Mynyddoedd Cambria ei hysbrydoli gan Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru i ‘gynnal ffermydd mynydd traddodiadol a chymunedau gwledig Cymru’.                                                                                                                          Sylwer – gallwch fynd yn syth i’r Ganolfan Gwiltiau erbyn 14:00 neu gallwch gwrdd wrth fynedfa’r Brifysgol gyferbyn â’r cigydd ar Stryd y Coleg). Bydd gwirfoddolwr yno i’ch tywys i’r Ganolfan Gwiltiau

Garddio Dim-Palu – pridd iach, digonedd o gynaeafu a llai o chwyn.   SESIWN SAESNEG                           

Neuadd Lloyd Thomas – Yn y sgwrs ddiddorol hon, cawn gyfle i ddysgu sut i dyfu llwyth o lysiau drwy ddefnyddio dulliau dim-palu organig, ecogyfeillgar, beth bynnag yw maint eich llain. Mae Stephanie Hafferty yn awdurdod blaenllaw ar arddio dim-palu, yn awdur am arddio a bwyd, yn ymgynghorydd gerddi bwytadwy, ac mae wedi bod yn tyfu ei bwyd ei hun ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae wedi creu gerddi cegin i brosiectau cymunedol, ar ystadau preifat, ar gyfer bwytai a gerddi marchnad. Mae’n arbenigo mewn tyfu mewn llefydd domestig, dysgu ac ysgrifennu am sut i dyfu bwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae Stephanie yn angerddol am hyrwyddo bwyd iach fforddiadwy i bawb, sut i’w dyfu ac yna sut i’w ddefnyddio, ar ôl magu tri o blant fel mam sengl yn bennaf. Mae hi’n datblygu ac yn rhannu ryseitiau sydd wedi’u seilio ar blanhigion bron yn gyfan gwbl ac ar fwyd y gellir ei dyfu mewn rhandir, ac mae hefyd yn defnyddio planhigion i wneud cynnyrch i’r corff, nwyddau glanhau’r cartref, jamiau, alcohol – o dan y faner “backyard homesteading” . Mae Stephanie yn creu darn o dir dim-palu newydd ger Llambed, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2021. Mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau garddio, bwyd a ffordd o fyw, ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr ac wrthi’n gweithio ar ddau arall. 

 

Sut Gall Egwyddorion Harmoni Natur Lywio Ffordd Newydd o Ddysgu?      SESIWN SAESNEG                   

Neuadd y Celfyddydau – Mae gan Richard Dunne 30 mlynedd o brofiad dysgu a bu’n bennaeth ysgol am 18 mlynedd mewn ysgol a dderbyniodd sgôr Eithriadol gan Ofsted. Mae ei waith yn ail-gynllunio’r cwricwlwm o amgylch Egwyddorion Harmoni Natur eisoes wedi dechrau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon a phlant, gyda’r dull hwn o ddysgu eisoes ar waith mewn sawl ysgol ledled y DU. Mae Richard yn credu’n angerddol mai’r ffordd orau i blant gael eu cymell wrth ddysgu yw pan mae’n gwneud synnwyr iddyn nhw a phan mae ganddyn nhw rôl allweddol i’w chwarae. Drwy gyfuno sgiliau craidd gydag ymholiadau pwrpasol o ran dysgu, mae’r plant yn dechrau datblygu eu gweledigaeth eu hunain o sut maen nhw eisiau gweld eu byd, a chyn bwysiced, yr hyn y gallan nhw ei wneud i wireddu hynny. Mae Richard yn Athro Ymarfer gyda’r Drindod Dewi Sant.

 

Doliau Souly    SESIWN SAESNEG                                                                                                             

Arts 4 –  Ledled y byd mae Doliau Souly wedi’u gwneud o fara sy’n dathlu cred grefyddol neu baganaidd; o Fara’r Tri Brenin o Ddwyrain Ewrop i’r Doliau Groegaidd ac Eidalaidd symlach. Ond y ffurf hynaf o bell ffordd y ‘Doliau’ hyn yw’r Doliau Souly Celtaidd. Wrth i Gristnogaeth gymryd yr awenau, diflannodd y gwaith o wneud y Doliau yn raddol, ond roedd cymunedau bychain ym Mhenfro, Ceredigion, Caerfyrddin a Gŵyr a gadwodd y traddodiad i fynd. Credir i’r olaf o’r doliau gael ei wneud ar ddiwedd yr oes Edwardaidd lle roedd sôn eu bod yn cael eu gwneud yng Ngŵyr. Roedd Doliau Souly Gŵyr yn fara melys a danteithion poblogaidd iawn. Ac wedi’u hymgorffori yn y calendr Cristnogol felly, anghofiwyd yn bennaf fod y Doliau mewn gwirionedd yn gred llawer mwy hynafol ac yn fendith ffrwythlondeb i’r pridd, eneidiau hynafiaid a melyster bywyd. Mae Chandore Luan Doxsey yn hanesydd bwyd, yn artist ac yn storïwr sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr.

Bara Beunyddiol – Our Daily Bread    SESIWN DDWYIEITHOG                                                                 

Celfyddydau 1 – Mae’r sesiwn/ddarlith hon yn archwilio gwreiddiau bara yn y Dwyrain Agos hynafol a sut y daeth hynny’n rhan mor annatod o’n bywydau bob dydd. Byddwn yn edrych ar sut roedd gwneud bara yn siapio bywydau, cyrff a chymunedau yng nghymunedau ffermio cynnar y Dwyrain Agos ac yn ystyried arwyddocâd cymdeithasol y cynnyrch newydd ar y deiet hynafol. Ar ôl y ddarlith, byddwn yn symud ymlaen at y broses draddodiadol o goginio bara yng Nghymru gyda sesiwn ymarferol o baratoi a choginio bara ar y planc.  Mae Louise Steel yn Athro Archaeoleg y Dwyrain Agos ac wedi gweithio’n helaeth ar ynys Cyprus, lle bu’n cloddio setliad ffermio o’r Oes Efydd. Mae ei hymchwil yn archwilio ymgysylltiad pobl â’r byd materol a sut mae bywydau cymdeithasol pobl yn cael eu siapio gan eu perthnasoedd cymhleth â phethau. Yn benodol, mae gan Louise ddiddordeb ym mhethau bwyd a diod. Yn ddiweddar, bu’n cyd-olygu Exploring the Materiality of Foodstuffs a gyhoeddwyd gan Routledge. Bydd Louise yn cael ei chefnogi gan Hazel Thomas, Cydlynydd Canolfan Tir Glas a fydd yn arddangos sut i wneud bara ar y planc. Mae Hazel yn gogydd cymwys, a chyn ei rôl fel Cydlynydd Canolfan Tir Glas, bu’n Swyddog Hyfforddi, gan gyflwyno prentisiaethau mewn lletygarwch.   

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 4 14:10 – 15:20

Realiti Cydnerthedd     SESIWN SAESNEG                                                                                           

Yr Hen Neuadd – Derbyn realiti newydd a gwneud dewisiadau ar sut i ddelio â hynny yw cydnerthedd. Nid sgil unigol mohono ond amrywiaeth o sgiliau a mecanweithiau i ymdopi â newid ac addasu iddo. Yn y sesiwn hon, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar faterion rydym yn debygol o’u hwynebu yn y dyfodol ac yn gweld sut gall ein cryfderau fel unigolion a chymunedau arwain at ddyfodol llawn gobaith yn hytrach nag anobaith. Bydd pum aelod o Hwb Ymaddasu Llambed yn arwain gweithdy rhyngweithiol ar realiti cydnerthedd.  

Andrea Saunders              

Angie Polkey              

Louise Nadim              

Julia Lim        

Cheryl Hillier                

Mae Hwb Ymaddasu Llambed yn cydweithio â PYDDS, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion i ddatblygu Canolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru. Cafodd ei ddatblygu yn sgil gwaith pum aelod o Grŵp Permaddiwylliant Llambed sef Cheryl Hillier, Julia Lim, Louise Nadim, Angie Polkey ac Andrea Sanders. Ar ôl gofyn am gefnogaeth yn yr ardal leol, aethpwyd â chynnig at Gwilym Dyfri Jones a Nick Campion yn 2019 am Ganolfan newydd ar gampws Llambed. Byddai’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen i addasu ac i liniaru newid hinsawdd a chwymp ecolegol.

Eu gweledigaeth oedd sicrhau bod Canolfan o’r fath yn allweddol i ailfywiogi’r campws a’r dref ac i alluogi pobl leol i hyfforddi mewn sgiliau a fyddai’n eu cefnogi i barhau i weithio ac i fyw yn y rhanbarth, yn ogystal â chynnig adnodd cenedlaethol i ddyfodol Cymru.

Mae Hwb Ymaddasu Llambed wedi datblygu i ffurfio Cwmni Budd Cymunedol cofrestredig, a fydd yn ei alluogi i ddenu arian i gefnogi ei waith partneriaeth ar Ganolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru, a chymuned Llambed yn ehangach yn y pen draw. Mae gan ei aelodau gefndiroedd, addysg a phrofiadau amrywiol, ac maen nhw’n rhan o sawl menter gymunedol yng Ngheredigion yn ogystal ag ar raddfa ehangach.

 

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 5  ~15:30 – 16:00

‘(L)linell: Between the Lines’  SESIWN DDWYIEITHOG                       

Tu Allan – Mae Jonathan Pugh wedi datblygu prosiect personol ‘(L)linell: Between the Lines’ i archwilio’r cysylltiad rhwng presenoldeb, ymwybyddiaeth ac adfyfyrio. Mae teitl y gwaith yn cysylltu’r geiriau Cymraeg a Saesneg am linell/line ac yn adleisio’r ffordd rydym yn ystyried ein symudiad mewn gofod a chanfod ein lleoliad mewn atgofion. Bydd yn mynd â ni ar daith drwy ardd y campws wrth archwilio’r thema hon. Mae Jonathan Pugh yn uwch-ddarlithydd yn y Celfyddydau Perfformio yn PCYDDS ac yn rheolwr rhaglen ar Ddrama Gymhwysol: Addysg Lles a Chymuned. 

Cyfranwyr ac amser sesiynau – Sesiwn 5  ~15:30 – 16:30 Hen Neuadd

Sefydliad Confucius: Dathlu Diwylliant   SESIWN SAESNEG                                                                       

Hen Neuadd – Ymunodd Krystyna Krajewska â Sefydliad Confucius yn wreiddiol fel Rheolwr Cyffredinol yn 2010, ac yna fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn 2013. Mae hefyd yn Bennaeth Ysgol Tsieineaidd Sefydliad Confucuis yn Abertawe, a sefydlwyd yn 2016 mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru gyda’r nod o sicrhau bod pobl ifanc o boblogaeth Tsieineaidd Cymru yn cadw mewn cysylltiad â’u treftadaeth ieithyddol a diwylliannol. Gyda chefndir mewn marchnata a hysbysebu, mae ganddi hefyd TAR o Brifysgol Cymru Casnewydd, a gradd Meistr mewn Athroniaeth – The Body: Eastern and Western Perspectives o PCYDDS. Mae ei diddordeb brwd yn y cyfnewid rhyng-ddiwylliannol â Tsieina wedi llywio amrywiaeth eang o brosiectau cydweithredol dros y blynyddoedd rhwng Sefydliad Confucuis a Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol, Coleg Celf, Ffilm a Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Tsieineaidd PCYDDS yn ogystal ag ysgolion a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Ym mis Hydref 2021 derbyniodd fedal gan Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieineaidd (CIRF) am ei gwasanaeth nodedig. Gan adeiladu ar brosiectau llesiant Tsieineaidd a ddatblygwyd dros y blynyddoedd, mae hi’n gweld rôl Sefydliad Confucius yn y dyfodol yn canolbwyntio’n fwyfwy ar archwilio treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog llesiant Tsieineaidd, a’r ffyrdd niferus o fynegi hynny yn y gymdeithas gyfoes, yn Tsieina a’r Gorllewin.

Twristiaeth Wledig a Phentrefi Te yn Tsieina  SESIWN SAESNEG                                                                    Mae’r ddarlith yn rhoi crynodeb byr o sut mae diwylliant te Tsieina yn cysylltu ag arferion llesiant hynafol drwy’r traddodiad o yfed te mewn gwahanol dymhorau, a thrwy fyfyrdodau ar athroniaeth te. Mae twf pentrefi te yn adlewyrchu nid yn unig bwysigrwydd diwylliannol dwfn te i bobl Tsieineaidd, ond mae hefyd yn cynnig ymateb pragmatig gan gymunedau gwledig ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy. Mae’r sgwrs yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar sut caiff te ei drin ar draws nifer o ranbarthau ac yn cyflwyno ‘map te’ sy’n dangos yr amrywiaeth enfawr o de o wahanol ardaloedd. Mae tro diddorol i stori te Tsieina wrth i ddatblygiadau twristiaeth wledig droi pentrefi te yn gyrchfannau twristaidd deniadol sy’n bwydo awydd cynyddol trigolion y ddinas i brofi natur, harmoni a llesiant. Ymunodd Lisa Liu Yu â Sefydliad Confucuis PCYDDS fel Cyd-gyfarwyddwr ym mis Tachwedd 2020. Mae hi’n Athro Twristiaeth yng Ngholeg Twristiaeth Prifysgol Undeb Beijing ac mae ganddi PhD mewn Economeg Ranbarthol o Brifysgol Peking. Mae ei gwaith ymchwil yn cynnwys polisïau economeg twristiaeth a rheoleiddio twristiaeth. Prif gyhoeddiadau Lisa yw: The Regulation of National Parks in China’, ‘The Inclusive Performance of Hang Zhou Urban Tourism Development’ a ‘How rural tourism plays an important role in poverty alleviation in China’. Daw Lisa â chyfoeth o brofiad i Sefydliad Confucius ac mae’n gobeithio creu cysylltiadau lleol cryf rhwng cymunedau yng Nghymru a sefydliadau yn Tsieina i hyrwyddo eco-dwristiaeth, llesiant a hamdden. Yn dilyn y ddarlith, cewch gyfle i brofi seremoni de Tsieineaidd a fydd yn cael ei chyflwyno gan Cindy Chen.

Sawru aroglau a blas y Seremoni De Tsieineaidd draddodiadol   16:00 – 16:30                                    Sesiwn Saesneg gyda chyfle i ddysgu ambell air mewn Mandarin

Mae’r seremoni de yn enghraifft glasurol o ddiwylliant Tsieineaidd traddodiadol sy’n cofleidio gwerthoedd esthetig a syniadau o lesiant yn y weithred syml o baratoi te. Fel myfyrdod ar baratoi a blasu te, mae’r seremoni yn dangos sut mae gwahanol offer te a setiau te a grefftiwyd yn arbennig yn cael eu defnyddio i flasu ac yfed te. Mae profi’r pedwar math mwyaf poblogaidd o de yn hanfodol i’r seremoni: te gwyrdd, te du, te persawrus a the oolong. Mae pob cam o’r seremoni de yn cyflwyno egwyddorion Conffiwsaidd o ran moesau a moesgarwch. Bydd Cindy Chen yn perfformio’r seremoni de ac yn cyflwyno aelodau o’r gynulleidfa i’r grefft hynafol hon. Mae Cindy Chen yn athrawes Tsieineaidd yn Sefydliad Confucius PCYDDS. Mae’n dysgu yn Ysgol Tsieineaidd Sefydliad Confucius yn ogystal ag ysgolion cynradd ac Ystafell Ddosbarth Confucius Ysgol Uwchradd Bryn Tawe. Mae ganddi radd Meistr o Brifysgol Peking, gan ganolbwyntio ar Gyfathrebu Marchnata Integredig. Yn ogystal â dysgu Tsieinëeg Mandarin, mae hi wrth ei bodd gyda diwylliant traddodiadol Tsieineaidd ac yn fedrus mewn caligraffeg Tsieineaidd.

  

 

                                                                                                                 .