Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac mae’n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn.
Mae’r ŵyl yn teithio o le i le, ac yn denu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau.
Eleni, bydd y brifwyl yn ymweld â Thregaron am y tro cyntaf yn ei hanes, ac am ei hymweliad cyntaf â Cheredigion mewn 30 mlynedd.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Faes yr Eisteddfod ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni. Prynwch eich tocynnau heddiw!
Tocynnau dyddiol ar gael yma.
Tocynnau am yr wythnos ar gael yma.
Byddwn yn cyhoeddi manylion ein rhaglenni nos a thocynnau cyn bo hir, a bydd ein rhaglenni ar gyfer yr wythnos ar gael ar-lein ym mis Mehefin.