Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Ceredigion 2022

30 Gorffennaf 2022 – 6 Awst 2022

2022_sgwar-100-diwrnod-fynd

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac mae’n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn.

Mae’r ŵyl yn teithio o le i le, ac yn denu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau.

Eleni, bydd y brifwyl yn ymweld â Thregaron am y tro cyntaf yn ei hanes, ac am ei hymweliad cyntaf â Cheredigion mewn 30 mlynedd.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Faes yr Eisteddfod ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni. Prynwch eich tocynnau heddiw!

Tocynnau dyddiol ar gael yma.

Tocynnau am yr wythnos ar gael yma.

Byddwn yn cyhoeddi manylion ein rhaglenni nos a thocynnau cyn bo hir, a bydd ein rhaglenni ar gyfer yr wythnos ar gael ar-lein ym mis Mehefin.