Bydd Clwb Seiclo Caron a’i ffrindiau yn arwain ymwelwyr Eisteddfodol o amgylch yr ardal a’r dair daith arbennig
- Dydd Sul 31ain Gorffennaf am 9 y bore taith weddol gwastad 60 milltir yn dilyn yr Afon Teifi i Gwm Alltacafan ac yn ol.
- Nos Fawrth 2ail o Awst am 5 or gloch- taith cymhedrol 24 milltir i’r Mynydd Bach a Chors Caron.
- Nos Iau 4ydd o Awst am 5 o’r gloch- taith i Gapel Soar y Mynydd (taith anodd gyda esgyniad o dros 3,000 troedfedd)
Bydd y teithiau ar gyflymder hamdden, a chroesawir beiciau ffordd, beiciau mynydd neu e-feics.