Ar Gered: Coed Maenarthur

10:30, 22 Hydref 2022

Am ddim

Ymunwch â Steff Rees, Cered: Menter Iaith Ceredigion ar gyfer taith gerdded nesaf Ar Gered o gwmpas coedwig brydferth Coed Maenarthur. Dewch i fwynhau holl liwiau’r Hydref ac i weld Pont y Mwynwyr, Ceunant Ystwyth, Rhaeadr Grogwynion a llawer mwy.

Taith o 5-6 cilomedr yw hon ar lwybrau da gydag ambell i ddringfa gweddol serth a rhai grisiau i’w dringo ond mi fyddwn yn cael digon o stops er mwyn mwynhau y golygfeydd ac i sgwrsio.

Bydd y daith yn cychwyn ger caffi hunan-wasanaeth Y Sied De gyferbyn garej Lisburne Motors yng nghanol y pentref. Mae ychydig o le parcio ger y garej ac ar ochr y ffordd.

Taith iaith Gymraeg yw hon ac mae croeso cynnes iawn i siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys dysgwyr brwd sydd eisiau cyfle i ymarfer siarad Cymraeg!

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.