Ar Gered: Tachwedd

10:30, 19 Tachwedd 2022

Am ddim

Ymunwch â Steff Rees o Cered: Menter Iaith Ceredigion ar gyfer y daith gerdded ddiweddaraf yng nghyfres boblogaidd Ar Gered a hynny ar gyfer antur hydrefol arall i un o lefydd mwyaf trawiadol Ceredigion sef Yr Hafod.

Cylchdaith 6km yw’r daith hon fydd yn gwneud defnydd o’r llwybrau gwyrdd, glas a melyn er mwyn gweld llawer o’r prif atyniadau. Gan gychwyn yn y maes parcio fe fyddwn yn pasio’r eglwys i gyfeiriad Rhaeadr Peiran a Cheunant Ystwyth. Yno fe fyddwn yn croesi Pont Shân ac yn mynd heibio’r Arcêd Gothig cyn cael saib yng Ngardd Flodau Mrs Johnes. I gloi’r daith fe fyddwn yn dychwelyd am y maes parcio trwy fynd heibio Cofgolofn Bedford ble cawn fwynhau un olygfa arbennig olaf cyn gadael.

Teithiau cerdded Cymraeg yw teithiau Ar Gered ac mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o bob math gan gynnwys dysgwyr felly dewch yn llu i fwynhau byd natur, dod i adnabod ein hardal leol ac i gymdeithasu.

I gofrestru, e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk