Griffith Jones, Llanddowror, addysgwr a gyflawnodd wyrthiau

17:00, 9 Tachwedd 2022

Yr Athro Geraint H. Jenkins

Symposiwm Rhithiwr gan Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Symposiwm rhithiol i nodi 400 mlwyddiant geni Stephen Hughes (‘Apostol Sir Gaerfyrddin’). Mewn cyfres o bedair darlith byddwn yn trafod addysgu’r werin yn y cyfnod modern cynnar gan ganolbwyntio ar addysgwyr o sir Gaerfyrddin.
 
Griffith Jones, Llanddowror, addysgwr a gyflawnodd wyrthiau
Pan gynhaliwyd pôl piniwn rai blynyddoedd yn ôl yn gofyn i’r cyhoedd enwebu arwyr Cymru, nid ymddangosodd enw Griffith Jones, Llanddowror, ymhlith y can enw cyntaf. Fe’i bwriwyd o’r neilltu gan enwogion fel Tommy Cooper, Phil Campbell a Cerys Matthews, er bod ei gamp fel addysgwr o Gymro ac fel diwygiwr crefyddol yn gwbl eithriadol. Mae’n amlwg bod angen mwy o PR arno a dyna a geir yn y sgwrs hon.
Mae’r digwyddiad yma drwy gyfrwng y Gymraeg – darperir cyfieithu ar y pryd.