Mae gweithdy Merched yn Gwneud Miwsig yn Glan-Llyn nol! Ar ôl llwyddiant y gweithdai diweddar, mae’n braf cael cyd-weithio gyda’r Urdd unwaith eto i ddod a’r gweithdy poblogaidd yn ôl. Heledd Watkins o’r band HMS Morris a Hana Lili fydd wrth y llyw, lle gewn ni gyfle i ddysgu sgiliau cyfansoddi a chynhyrchu gan ddwy o fenywod blaenllaw y sîn gerddorol yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais i ymuno a’r gweithdy, cliciwch y dolen tocynnau.
Digwyddiad 16+