Gweithdy Realiti Estynedig

17:00, 5 Ebrill 2022

Am Ddim

Dysgwch sut i wneud a dylunio hidlwyr Realiti Estynedig | Learn how to make and design Augmented Reality filters

Bydd y sesiwn hwyliog, greadigol hon yn helpu’ch cyfryngau cymdeithasol i sefyll allan!

Mae Livi Willmore yn rhoi trosolwg o alluoedd Augmented Reality, boed yn botensial marchnata diddiwedd o ddod â phosteri a chynhyrchion yn fyw, neu greu effeithiau hwyliog wedi’u teilwra i’w rhannu gyda’ch ffrindiau.

Byddwn yn dysgu sut i wneud modelau 3D ac yna’n gweld y gwahanol ffyrdd y gellir eu defnyddio i adeiladu effeithiau … I gyd yn bosibl drwy ddefnyddio rhaglenni rhad ac am ddim!

Nid oes angen profiad. Os yn bosibl, dewch â’ch gliniadur eich hun gyda Spark AR wedi’i lawrlwytho ymlaen llaw (https://sparkar.facebook.com/ar-studio/download/) a ffôn neu dabled gydag Instagram. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw broblemau neu os nad oes gennych chi liniadur neu ffôn addas.