Mae Byw’n Iach Bangor yn falch o gyhoeddi ein bod wedi rhyddhau sesiynau Blynyddoedd Cynnar yn rhad ac am ddim, bydd ar gael o Fis Ionawr tan ddiwedd Mis Mawrth!
Felly beth am drio ein sesiynau Nofio Swigod i 0-3 oed? Maent yn gyfle gwych i blant fwynhau’r dŵr a chael treulio ei amser gyda nain neu daid, rhiant neu warcheidwad drwy greu atgofion arbennig.
Ewch draw i gael golwg ar amserlen eich canolfan leol ar ein gwefan rŵan drwy glicio ar y linc yma Amserlen Byw’n Iach Bangor. Bydd angen archebu lle o flaen llaw ar gyfer y sesiynau, gallwch wneud hyn drwy ffonio’r ganolfan neu archebu ar-lein yma Archebu ar-lein
Dilynwch ni ar Facebook, Instagram, Tiktok a Twitter er mwyn cael mwy o fanylion a diweddariad am ein Gweithgareddau Am Ddim Blynyddoedd Cynnar a llawer mwy.