Gwledda – garddio, barddoni a storïau gyda Hywel Griffiths a Ceri Phillip

10:00, 12 Gorffennaf 2022

Am ddim

Dewch i Ganolfan y Creuddyn dydd Mawrth 12fed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 ar gyfer Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau gyda’r bardd Hywel Griffiths a’r chwedleuwr Ceri Phillip. Darperir lluniaeth ysgafn a’r cyfan am ddim. Cysylltwch gyda Lowri ar 07834 456344 os am fwy o wybodaeth. Croeso cynnes i bawb.

Trefnir ar y cyd gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion, Cered (Menter Iaith Ceredigion dan adain Cyngor Sir Ceredigion), Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion gyda chymorth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru), Cyfoeth Naturiol Cymru a Celf a Busnes Cymru.