Ar y 4ydd a’r 5ed o Fehefin, bydd Aberystwyth yn gwahodd beicwyr o bob oed i fynd ar gefn eu beic a chymryd rhan.
Ar y dydd Sadwrn, 4ydd o Fehefin, bydd rasys Criterium o amgylch y dref, gyda ffensys diogelwch i gadw’r ymgeiswyr yn saff. Mae’r cwrs arobryn yn cylchu’r Hen Goleg eiconig o’r 19eg ganrif, y Castell o’r 13eg ganrif, y Pier o Oes Fictoria a hefyd yn picio i ganol y dref ar ddiwrnod sy’n llawn adloniant i bawb.
Mae rhaglen lawn yn amrywio o ferched sydd yn ddechreuwyr, plant, oedolion, a beicwyr proffesiynol
- 11.55 – Go Race i Ferched
- 12.30 – Categori D ac E i ferched a bechgyn
- 13.00 – Categori C i ferched a bechgyn
- 13.30 – Categori B i ferched a bechgyn
- 14.15 – Categori A i ferched a bechgyn
- 15.00 – Wheels Together Go Ride
- 15.45 – Rasus 40+ 50+
- 16.45 – Categori 3 a 4
- 18.00 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Merched – E/1/2/3/4/J
- 19.30 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Ras Dynion 16-39
Dyma fanylion y digwyddiadau ffrinj sydd mlaen yn ystod yr wythnos cyn y penwythnos mawr.