Gŵyl Feicio Aberystwyth

28 Mai 2022 – 5 Mehefin 2022

Ar y 4ydd a’r 5ed o Fehefin, bydd Aberystwyth yn gwahodd beicwyr o bob oed i fynd ar gefn eu beic a chymryd rhan.

Ar y dydd Sadwrn, 4ydd o Fehefin, bydd rasys Criterium o amgylch y dref, gyda ffensys diogelwch i gadw’r ymgeiswyr yn saff. Mae’r cwrs arobryn yn cylchu’r Hen Goleg eiconig o’r 19eg ganrif, y Castell o’r 13eg ganrif, y Pier o Oes Fictoria a hefyd yn picio i ganol y dref ar ddiwrnod sy’n llawn adloniant i bawb.

Mae rhaglen lawn yn amrywio o ferched sydd yn ddechreuwyr, plant, oedolion, a beicwyr proffesiynol

  • 11.55 – Go Race i Ferched
  • 12.30 – Categori D ac E i ferched a bechgyn
  • 13.00 – Categori C i ferched a bechgyn
  • 13.30 – Categori B i ferched a bechgyn
  • 14.15 –  Categori A i ferched a bechgyn
  • 15.00 – Wheels Together Go Ride
  • 15.45 – Rasus 40+ 50+
  • 16.45 – Categori 3 a 4
  • 18.00 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Merched – E/1/2/3/4/J
  • 19.30 – Pencampwriaeth Criterium Cymru – Ras Dynion 16-39

Dyma fanylion y digwyddiadau ffrinj sydd mlaen yn ystod yr wythnos cyn y penwythnos mawr.