Dewch i Gŵyl Fwyd Llanbed am lond bol o fwyd, adloniant a hwyl. Mynediad am ddim i’r teulu fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb. Cynhelir arddangosfeydd coginio, perfformiadau o gerddoriaeth byw a llawer mwy. Cewch wybodaeth bellach trwy fynd i wefan www.LampeterEvents.co.uk <http://www.LampeterEvents.co.uk> a’r dudalen Facebook Lampeterfoodfestival. Mae’r ŵyl yn cynnig platfform i fusnesau werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau ac elusennau hyrwyddo eu gwasanaethau.
Cofiwch y dyddiad – Sadwrn 23ain Gorffennaf – rhwng 10.00 y bore a 5.00 y prynhawn ar Gampws Llanbed o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.