Gwyl Gregynog – ‘By particular Desire’

14:30, 25 Mehefin 2022

Am ddim i ddeiliaid tocynnau cyngerdd

‘By particular Desire’: Welsh musicians in Georgian Bath 

Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog yn ail-greu byd y ddeunawfed ganrif pan oedd yr allbwn o Gymru i Gaerfaddon yn cynnwys perfformwyr, cyfansoddwyr ac impresarios yn ogystal â gwlanen, cobiau a chig dafad.

Mae ymchwil ddiweddar wedi datgelu bod ‘Y Telynor Dall’ enwog, sef John Parry, wedi rhoi datganiad yn y ddinas, ac roedd ymwelwyr nodedig eraill yno, gan gynnwys y ‘Little Cambrian Prodigy’ Elizabeth Randles, a’r ‘Infant Cambrian Harpist’ Master Hughes.

Yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog ers 2006, mae Dr Rhian Davies yn hanesydd cerddoriaeth Gymraeg ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor.

Am ddim i ddeiliaid tocynnau cyngerdd Maximilian Ehrhardt