Sgwrs yn Gymraeg gan Dr D Ben Rees – gyda chyfieithiad opsiynol
Roedd Gwasg Gee yn Ninbych yn un o brif weisg Cymru am ran helaeth o ddwy ganrif. Daeth y cwmni yn enwog fel cyhoeddwr Y Faner, Y Gwyddoniadur Cymreig, a llwyth o lyfrau o bob math. Sefydlwyd y wasg yn 1808 gan y Parchedig Thomas Jones yn Rhuthun, wedyn symudodd y busnes i Ddinbych yn 1809. Cymerodd Thomas Gee drosodd yn 1813.
Ar ôl ei hoes aur daeth dirywiad hir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif er gwaethaf ymdrechion arwrol y nofelydd Kate Roberts, perchennog y cwmni o 1946 ymlaen. Bu farw Kate yn 1985 a bu farw Gwasg Gee yn 2001.
Bydd Dr D Ben Rees, Lerpwl yn adrodd stori ryfeddol y wasg, a’r llenorion enwog tu ôl ei hanes, mewn sgwrs gyda sleidiau.
Cliciwch y ddolen islaw i gofrestru: