Hanes teulu Gwern Gof Isaf, Capel Curig gan Alun Roberts

19:00, 14 Medi 2022

Nos Fercher Medi 14 2022 am 7 p.m. bydd Alun Roberts yn traddodi sgwrs hefo sleidiau yn son yn bennaf am deulu Gwern Gof Isaf Capel Curig . Bydd cyfeiriad at Gapel  Nantybenglog Capel Curig , bygwth boddi Nant Ffrancon, rygbi Gogledd Cymru yn y chwedegau, son am berson a wnaeth newid hanes Cymru yn ddiarwybod iddo, un o lythyrau olaf Lady Edwards, Wyn Davies( y peldroediwr) a`i obsesiwn hefo Pobl y Cwm, tudalen flaen rhyfedda Papur Dre, cysylltiad y teulu a Syr John Hunt a llawer mwy.

Pris y tocyn mynediad ydy £5 a bydd yr elw yn mynd at gyfraniad Capel Salem i Apel Caernarfon at Eisteddfod Genedlaethol 2023. Bydd tocynnau ar werth o Medi cyntaf yn Siop NaNog neu fe allwch ffonio Alun ar 01286 677208  neu alungelli1@gmail.com fel y gall gadw tocyn i chi, ac fe allwch dalu wrth y drws. Gallwch barcio yn y maes parcio aml lawr wrth Capel Salem fydd yn agored tan 10 p.m.